Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cyflwyno

Ymgysylltu Dinesig ar gyfer Arloesi Cynhwysol yng Nghymru

Cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru fwrdd crwn o arbenigwyr i fyfyrio ar bwysigrwydd ymgysylltu dinesig wrth ysgogi arloesi cynhwysol. Ein hamcan wrth gynnal y bwrdd crwn oedd darganfod sut mae prifysgolion a sefydliadau amrywiol yng Nghymru a thu hwnt yn ffurfio cysyniadau o’r broses ymgysylltu dinesig a’u hymdriniaeth â’r broses honno.

Mae’r diffiniadau o genhadaeth ddinesig yn amrywio, ond ffocws y trafodaethau oedd y modd y gall sefydliadau ymchwil ac arloesi wneud gwahaniaeth ystyrlon i’r bobl a’r lleoedd ar garreg eu drws, drwy ymgysylltu â dinasyddion, partneru ag ystod o endidau dinesig, a thrwy hynny, gwneud y mwyaf o’u dylanwad fel sefydliadau angori o fewn ardal benodol.

Mewnwelediadau tyngedfennol:

Cydweithio Rhanbarthol:

Meithrin cydweithio a chydgysylltu rhwng prifysgolion, darparwyr addysg bellach, busnesau, y trydydd sector, y sector cyhoeddus, a chymunedau o fewn y rhanbarth. Datblygu a buddsoddi’n barhaus mewn rhwydweithiau lleol cynhwysol sy’n croesi ffiniau traddodiadol i wella effaith mentrau ymgysylltu dinesig.

Dulliau Seiliedig ar Le:  

Rhaid addasu a chymhwyso’r hyn a ddysgir o ardaloedd eraill yn ofalus. Er mwyn sefydlu eu cyfraniad fel sefydliadau angori, rhaid i sefydliadau ymchwil ac arloesi ddatblygu cenhadaeth ddinesig wedi’i theilwra yn seiliedig ar ddealltwriaeth ddofn o’u hardal, ei chymunedau a’i natur unigryw.

Buddsoddi mewn Gallu Sefydliadol:

Canolbwyntio ar gryfhau gallu sefydliadau a’u capasiti amsugnol er mwyn ymgysylltu â chymunedau’n effeithiol, gan fod angen llawer iawn o lafur i gydweithio. O fewn sefydliadau addysg uwch a’u cydweithwyr, dylid prif-ffrydio ymrwymiad i ymgysylltu’n rhagorol â dinasyddion, ac arbenigedd yn y maes hwnnw, ar draws cyllidebau, polisïau ac adrannau yn hytrach na dibynnu ar unigolion neu brosiectau penodol.

Grym Ymgysylltu Dinesig:

Mae ymchwilwyr a sefydliadau wedi elwa ar fanteision sylweddol yn sgil dulliau uchelgeisiol o ymgysylltu â dinasyddion, gan gyfrannu ar yr un pryd at ganlyniadau cadarnhaol mewn cymdeithas. Gall ymgysylltu dinesig ystyrlon arwain at greu gwybodaeth ac at ddatblygiadau arloesol cynhwysol sy’n torri tir Newydd.

Dathlu Llwyddiannau:

Mae’n hanfodol dathlu’r cynnydd a wneir yn sgil ymgysylltu dinesig, yn lleol ac yn genedlaethol, a rhannu llwyddiannau drwy ymchwil a gwaith ysgrifenedig. Drwy gydnabod mentrau llwyddiannus gellir ysbrydoli a goleuo mentrau eraill, gan feithrin diwylliant o gynnwys cymunedau.

Ffurfio Cysyniadau o Ymgysylltu Dinesig

Bu dulliau sy'n seiliedig ar le yn allweddol er mwyn ymgysylltu â chymunedau lleol yng Nghymru a hefyd mewn prifysgol wledig yn yr UD.

Mae Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru (2023) yn “ceisio defnyddio arloesedd i sicrhau effaith a gwerth i ddinasyddion mewn economi fodern yng Nghymru drwy gydlynu pobl, sefydliadau fel busnes a’r byd academaidd a chyrff cyllido i sicrhau’r canlyniadau a’r buddsoddiad gorau posibl o ffynonellau Cymreig, y DU a rhyngwladol.”

Cyflwynodd pedwar siaradwr y bwrdd crwn ddiffiniad dynamig o ymgysylltu dinesig o’u profiad o roi hynny ar waith. Bu dulliau sy’n seiliedig ar le yn allweddol er mwyn ymgysylltu â chymunedau lleol yng Nghymru a hefyd mewn prifysgol wledig yn yr UD. Er enghraifft, mae esblygiad ymgysylltu dinesig o fewn prifysgol Cymru wedi’i alinio â fframweithiau deddfwriaethol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; bu hyn yn dyngedfennol er mwyn llunio mentrau hirdymor. Mewn sawl achos, mae ymgysylltu dinesig nid yn unig wedi bod yn ddull hynod effeithiol o gyfnewid gwybodaeth, ond hefyd o greu gwybodaeth.

Roedd y safbwyntiau hyn yn tanlinellu natur amlddimensiwn ymgysylltu dinesig, gan gwmpasu cydweithio, ymchwil, mentrau cymunedol, ac addysg. Gyda’i gilydd, maent yn cyfrannu at ddealltwriaeth gynhwysfawr o ymgysylltu dinesig fel proses lle ceir partneriaethau teg, lle cynhyrchir gwybodaeth, a lle bydd pobl yn cymryd rhan yn weithredol er mwyn mynd i’r afael â phroblemau mewn cymdeithas.

National The Edge Tool from the Co-ordinating Centre for Public Engagement

Yn fwy diweddar, mae'r modd y mae prifysgolion yn mynd ati i ymgysylltu â dinasyddion wedi esblygu o fentrau achlysurol i fframweithiau sefydliadol wedi'u hymwreiddio yn eu cenadaethau ehangach.

Rôl Prifysgolion a Sefydliadau wrth Ymgysylltu â Dinasyddion

Heddiw, mae prifysgolion yn croesawu cydweithio rhyngddisgyblaethol, meithrin partneriaethau, ac ymchwil yn y gymuned fel agweddau annatod ar ymgysylltu dinesig, gan feithrin diwylliant lle bydd sefydliadau a chymunedau, y naill a'r llall, yn elwa.

Mae prifysgolion a sefydliadau eraill yn ganolog i feithrin ymgysylltiad dinesig a datblygiad cymunedol. Ledled Cymru a thu hwnt, mae’r endidau hyn yn gatalyddion ar gyfer newid cadarnhaol, gan ddefnyddio’u hadnoddau, eu harbenigedd a’u partneriaethau i fynd i’r afael â heriau dybryd mewn cymdeithas. Fodd bynnag, nid yw prifysgolion bob amser wedi rhoi’r flaenoriaeth i gyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu â dinasyddion, ond bu cryn newid o ran hynny dros y pymtheng mlynedd diwethaf. Yn flaenorol, byddai sefydliadau academaidd yn rhoi’r flaenoriaeth i ddatblygu’r cwricwlwm ac i gyhoeddiadau academaidd rhyngwladol, yn hytrach na gweithio er budd y cymunedau ar garreg eu drws. Yn fwy diweddar, mae’r modd y mae prifysgolion yn mynd ati i ymgysylltu â dinasyddion wedi esblygu o fentrau achlysurol i fframweithiau sefydliadol wedi’u hymwreiddio yn eu cenadaethau ehangach. Mae’r newid mawr hwn yn adlewyrchu cydnabyddiaeth ehangach o gyfrifoldeb cymdeithasol prifysgolion a’u gallu i gyfrannu mewn modd ystyrlon at lesiant cymdeithas. Heddiw, mae prifysgolion yn croesawu cydweithio rhyngddisgyblaethol, meithrin partneriaethau, ac ymchwil yn y gymuned fel agweddau annatod ar ymgysylltu dinesig, gan feithrin diwylliant lle bydd sefydliadau a chymunedau, y naill a’r llall, yn elwa. Er hynny, ceir cwmpas sylweddol i ddatblygu’r agenda cenhadaeth ddinesig ymhellach. Yn y bwrdd crwn trafodwyd y rhannau a chwaraeir gan brifysgolion ac yn ystyried enghreifftiau o ymgysylltu llwyddiannus a’r heriau i’w hwynebu.

Yn gyntaf, mae prifysgolion a sefydliadau yn gweithredu fel canolfannau ar gyfer cydweithio a chydgysylltu, gan ddod â rhanddeiliaid amrywiol ynghyd o’r byd academaidd, o’r llywodraeth, o sefydliadau dielw ac o gymunedau. Mae mentrau fel Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru, sef partneriaeth rhwng y pum prifysgol a’r pum coleg sy’n gweithredu ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd, yn enghraifft o’r ymagwedd hon yng Nghymru. Drwy’r bartneriaeth, mae’r prifysgolion yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau’r trydydd sector i ysgogi prosiectau dylanwadol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol. Un enghraifft nodedig o’r prosiectau hyn yw hwyluso “sgyrsiau cymunedol” sy’n cynnwys trafodaethau’n amrywio rhwng ymgysylltu â’r sector creadigol a chydweithio â sefydliadau sy’n rhoi cymorth i geiswyr lloches ac unigolion sy’n cefnogi oedolion sy’n dysgu yn y gymuned. Yn ogystal â hynny, mae’r Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol ym Mhrifysgol Abertawe, a sefydlwyd er mwyn helpu i hybu dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd y mae cymunedau’n eu profi ar draws y rhanbarth, yn arwydd o gam sefydliadol tuag at ymgysylltu â chymunedau lleol mewn modd mwy systematig. Mae’r fenter hon yng nghamau cyntaf ei datblygiad, a daeth i’r amlwg wrth i’r brifysgol ailddatblygu ei strategaeth ymchwil ychydig flynyddoedd yn ôl.

Yn ail, mae prifysgolion a sefydliadau yn gweithredu fel cynhyrchwyr a lledaenwyr gwybodaeth, gan gyflawni ymchwil a chreu mewnwelediadau sy’n llywio polisi ac arfer. Mae’r pwyslais ar ymchwil seiliedig ar le yn adlewyrchu ymrwymiad i ddeall a mynd i’r afael ag anghenion a chyd-destunau lleol, gan gynhyrchu gwybodaeth wedi’i theilwra i’r heriau unigryw sydd o flaen cymunedau’r lle dan sylw. Er enghraifft, mae Prifysgol Wyoming, a ddynodwyd yn gampws Ymgysylltiad Cymunedol Sefydliad Carnegie, yn diffinio ymgysylltiad cymunedol fel “cydweithredu rhwng sefydliadau addysg uwch a’u cymunedau ehangach er mwyn creu a chyfnewid gwybodaeth ac adnoddau sydd o fudd i’r ddwy ochr yng nghyd-destun partneriaeth a dwyochredd.” Dangosir ei hymrwymiad i’r math hwn o ymgysylltiad cymunedol mewn prosiectau fel Prosiect Cwricwlwm K-12 Rhaglen Ymgysylltu Dinesig Wallop, sef partneriaeth ag addysgwyr Wyoming sy’n anelu i ddarparu adnoddau addysgu amlgyfrwng i gymunedau llai, a oedd yn arbennig o bwysig yn ystod heriau COVID-19. Yn ogystal â hynny, mae Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru yn rhoi’r flaenoriaeth i ddathlu’r gwaith dinesig sy’n cael ei gyflawni yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn trosi’r llwyddiannau hynny’n waith ysgrifenedig ac ymchwil. Mae dau o’i llyfrau’n destun adolygiad gan gymheiriaid ar hyn o bryd, yn unol â’r nod hwn.

Ar ben hynny, mae prifysgolion a sefydliadau yn chwarae rhan dyngedfennol wrth feithrin diwylliant o ymgysylltu dinesig a chyfrifoldeb cymdeithasol ymhlith myfyrwyr, y gyfadran a’r staff. Drwy integreiddio fframweithiau cenhadaeth ddinesig i’w hethos sefydliadol, fel y gwelwyd wrth ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i arferion prifysgol, gall 5 sefydliadau wreiddio gwerthoedd gwasanaeth cymunedol a dinasyddiaeth weithgar. Er enghraifft, mae’r Ganolfan Gydgysylltu Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu Cyhoeddus yn cynnig offer a fframweithiau i helpu sefydliadau i weithredu mentrau ymgysylltu amrywiol, gan hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant a dwyochredd.

I grynhoi, mae prifysgolion a sefydliadau yn chwarae rolau amlochrog wrth ymgysylltu â dinasyddion, gan weithredu fel catalyddion ar gyfer cydweithredu, cynhyrchwyr gwybodaeth, meithrinwyr gwerthoedd dinesig, a hwyluswyr deialog a chyfnewid. Drwy drosoli eu cryfderau a’u hadnoddau unigryw, gall yr endidau hyn ysgogi newid cadarnhaol mewn cymdeithas, a chyfrannu at lesiant a chydnerthedd eu cymunedau a’u rhanbarthau perthynol.

Drwy integreiddio fframweithiau cenhadaeth ddinesig i'w hethos sefydliadol, fel y gwelwyd wrth ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i arferion prifysgol, gall 5 sefydliadau wreiddio gwerthoedd gwasanaeth cymunedol a dinasyddiaeth weithgar.

Heriau a Chyfleoedd wrth Ymgysylltu â Dinasyddion yng Nghymru

Efallai y byddwn yn dechrau gweld prifysgolion yn chwilio am fecanweithiau a phartneriaethau cyllido arloesol i gryfhau eu hymdrechion i ymgysylltu â dinasyddion, yn ogystal â harneisio potensial ymgysylltu dinesig i roi hwb i ddatblygiadau arloesol lleol.

Ceir straen economaidd amlwg ar brifysgolion yng Nghymru, sy’n amharu ar eu gallu i roi’r flaenoriaeth i fentrau ymgysylltu dinesig, ac i gynnal y mentrau hynny, ymhlith blaenoriaethau ariannol sy’n cystadlu’r naill a’r llall. Mae’r straen economaidd hwn yn aml yn golygu bod angen canfod rhagor o adnoddau a chefnogaeth ar gyfer ymdrechion ymgysylltu dinesig. Fodd bynnag, mae’r her hon yn gyfle i brifysgolion ailasesu eu blaenoriaethau i sicrhau bod ymgysylltu dinesig yn cael ei ystyried fel agwedd hanfodol, yn hytrach nag ôl-ystyriaeth. Efallai y byddwn yn dechrau gweld prifysgolion yn chwilio am fecanweithiau a phartneriaethau cyllido arloesol i gryfhau eu hymdrechion i ymgysylltu â dinasyddion, yn ogystal â harneisio potensial ymgysylltu dinesig i roi hwb i ddatblygiadau arloesol lleol.

Yn ail, mae’n rhaid i brifysgolion weithio mewn partneriaeth i oresgyn y bwlch traddodiadol rhwng addysg uwch ar y naill ochr ac addysg bellach ar yr ochr arall, gan feithrin cydweithio a pharch y naill at y llall rhwng sefydliadau, i gynyddu eu heffaith ar y cyd wrth ymgysylltu â’r gymuned. Drwy’r cydweithio hwn bydd modd manteisio ar yr arbenigedd a’r adnoddau amrywiol sydd ar gael ar draws sectorau addysgol i fynd i’r afael â heriau cymhleth cymdeithas yn fwy effeithiol.

Roedd y bwrdd crwn yn tanlinellu pwysigrwydd adnabod a mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth a all godi yn sgil trosiant arbenigwyr o fewn sefydliadau. Pwysleisiai’r angen am brosesau strwythuredig i sicrhau parhad ymdrechion i ymgysylltu, ac i sicrhau na chollid arbenigedd gwerthfawr. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn gyfle i fuddsoddi mewn strategaethau rheoli gwybodaeth a rhaglenni mentora er mwyn cadw gwybodaeth ac arbenigedd sefydliadol.

Yn olaf, mae sicrhau cynhwysiant a thegwch wrth ymgysylltu â dinasyddion yn dal i fod yn her barhaus, ac yn gyfle hanfodol i brifysgolion gynnwys lleisiau a chymunedau sydd ar y cyrion yn weithredol mewn prosesau penderfynu. Drwy roi’r flaenoriaeth i amrywiaeth a chynhwysiant, gall prifysgolion feithrin diwylliant o berthyn ac o rymuso, gan arwain at ganlyniadau tecach i bob rhanddeiliad. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn a manteisio ar gyfleoedd, mae’n rhaid cynllunio’n strategol, dyrannu adnoddau, ac ymrwymo i feithrin partneriaethau ystyrlon rhwng prifysgolion, cymunedau a rhanddeiliaid yng Nghymru.

Drwy roi'r flaenoriaeth i amrywiaeth a chynhwysiant, gall prifysgolion feithrin diwylliant o berthyn ac o rymuso, gan arwain at ganlyniadau tecach i bob rhanddeiliad.

Y Cefndir: Byrddau Crwn Arloesi Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Gymdeithas wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron ar arloesi, gan ddod ag arbenigwyr arloesi, ymarferwyr ac arweinwyr ynghyd i helpu i lywio a chyfrannu at drafodaethau a allai wella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru ac ar gyfer Cymru. Roedd y rhaglen hon o weithgareddau i ddechrau’n cyd-daro â gwaith Llywodraeth Cymru i lunio’r Strategaeth Arloesi i Gymru, a chynlluniau cyflawni cysylltiedig. Ar gyfer 2024, mae’r Gymdeithas wedi cychwyn cyfres newydd o raglenni’r byrddau crwn arloesi.

Yn y cam nesaf hwn, mae’r Gymdeithas yn ymgysylltu ymhellach â meddylwyr blaenllaw ac ymarferwyr yn y maes, gan barhau i ddatblygu argymhellion er mwy helpu i lywio a gwella strategaethau arloesi a’r amgylchedd arloesi yng Nghymru. Y thema greiddiol newydd ar gyfer y cam nesaf hwn yw “arloesi cynhwysol” – a ddiffinnir yn yr ystyr ehangaf, ond gyda phwyslais arbennig ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chan fesur effaith y tu hwnt i ffactorau economaidd Bydd yr ail gam hwn hefyd yn cynnwys ymchwiliad dyfnach i thema o’r gyfres flaenorol o fyrddau crwn: “Arloesi mewn Cenhedloedd Bach,” cyfle i rannu gwersi y gall Cymru eu dysgu gan genhedloedd bach eraill.

Cynhelir pob sesiwn bord gron o dan reolau Chatham House, a dyma’r adroddiad dienw a heb ei briodoli ar bwyntiau allweddol o’r ail gyfarfod bord gron.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae ei Chymrodoriaeth yn dwyn ynghyd arbenigwyr o bob maes academaidd a thu hwnt. Mae’r Gymdeithas yn defnyddio’r wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu, a rhoi cyngor annibynnol ar bolisi.